Cael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, digwyddiadau, ymchwil, adroddiadau a chyllid.
Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (ARC) yn ganolfan ragoriaeth unigryw, a ariennir gan y llywodraeth er budd busnesau o bob maint a sector yng Nghymru.
Ffurfiwyd ARC i helpu busnesau i ddatblygu eu sgiliau datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth, gan eu galluogi i fod yn fwy effeithlon a helpu i ehangu’r economi yng Nghymru.
Caiff ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn noddi’r prosiect.
Ein Gweledigaeth:
Creu amgylchedd lle mae pob busnes yng Nghymru yn ymwybodol o’r broses o ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth, yn ei deall, yn ymgysylltu â hi ac yn cael budd ohoni.
Fel consortiwm Cymru gyfan, rydym yn cael budd o gryfder gweithio mewn partneriaeth - gan gyfuno arbenigedd y prif bartner Ysgol Fusnes Caerdydd ac aelodau eraill o’r consortiwm sef Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Glyndŵr a Tattum Guest Associates Ltd er mwyn rhoi cipolwg ar ymchwil a phrofiad busnes ymarferol he eu hail.
Drwy’r canolfannau hyn ledled Cymru, rydym yn cwmpasu ardal ddaearyddol sy’n sicrhau bod gennym wybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o weithgarwch datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth, gan gynnwys y gwahaniaethau rhanbarthol ledled y wlad.
Bydd yn gwireddu ein gweledigaeth drwy’r pedwar nod canlynol:
- Codi ymwybyddiaeth o fuddiannau datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth, gan ei egluro a’i hyrwyddo mewn ffyrdd sy’n briodol ac yn ystyrlon i fusnesau o bob maint a sector;
- Gwneud ARC yn siop un stop ar gyfer yr holl wybodaeth ac adnoddau o ran datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth yng Nghymru;
- Darparu tystiolaeth o effaith datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth ar fusnesau unigol a’r economi ehangach;
- Sicrhau mai’r broses o ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth yng Nghymru yw’r gorau y gall fod.

