Cyllid

Gall busnesau yng Nghymru dderbyn ystod o gyllid i gynnal datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth o dan y rhaglen Gwella Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ELMS).

Mae’r busnesau canlynol yn gymwys;

  • sefydliadau sy’n derbyn llai na 50% o gyllid craidd gan arian cyhoeddus
  • mae cwmni sy’n derbyn 50% neu fwy o’i gyllid craidd gan arian cyhoeddus ond cafodd hyn ei ennill drwy dendr cystadleuol agored hefyd yn gymwys
  • nid yw sefydliadau sy’n derbyn 50% neu fwy o’u cyllid craidd gan arian cyhoeddus yn gymwys i gael cyllid ELMS ond mae’n bosibl eu bod yn gymwys ar gyfer cyllid arweinyddiaeth a rheolaeth arall.

Os ydych yn ansicr ynglŷn â’ch cymhwyster am gyllid ELMS anfonwch neges e-bost i
ELMSenquiries@wales.gsi.gov.uk.

Mae cyllid ELMS ar gael ar ffurf;

  • Rhaglenni hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth– mae hyd at 70% o gymhorthdal ar gostau mynychu hyfforddiant ar arweinyddiaeth a rheolaeth wedi’i ddarparu gan 12 darparwr hyfforddiant cymeradwy Llywodraeth Cymru neu 50% o gymhorthdal er mwyn cynnal datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth drwy’r Rhaglen Datblygu’r Gweithlu
  • Menter Hyfforddi Cymru – rhaglen beilot i hyfforddi hyfforddwyr a mentoriaid
  • Cronfa Arweinyddiaeth Sector – ar gael ar gyfer Cynghorau Sgiliau Sector er mwyn datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth mewn busnesau sy’n benodol i sectorau. Bellach mae’r gronfa wedi’i chau, ond cliciwch yma i weld a yw eich Cyngor Sgiliau Sector wedi gwneud cais llwyddiannus

Ariennir ELMS yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Diben y prosiect yw cynnal twf yn economi Cymru drwy wella sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth gweithlu Cymru.

Swyddfa Caerdydd

Ysgol Fusnes Caerdydd 118 Ffordd Maendy Caerdydd CF24 4HL


T: 02920 876560

E: lmw@cf.ac.uk

Swyddfa Wrecsam

D11a Prifysgol Glyndŵr Campws Plas Coch Wrecsam LL11 2AW


T: 01978 293995

E: lmw@glyndwr.ac.uk

Swyddfa Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth Adeilad Cledwyn Aberystwyth SY23 3DD


T: 01970 622209

E: lmw@aber.ac.uk

Prif Gysylltiadau Safle


© 2012 2013 Y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Sgiliau Arwain a Rheoli yng Nghymru.

Ein partneriaid

Ariennir gan

Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru yn rhan o raglen Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli (ELMS). Ariannir ELMS yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.