Mae’r Ganolfan Fusnes wedi bod yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi a datblygu ers dros 25 mlynedd. Mae cannoedd o gynrychiolwyr wedi cwblhau un neu fwy o’n cyrsiau hyfforddi’n llwyddiannus, gan gyflawni cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ar draws y diwydiant.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eich bod chi’n derbyn y lefel uchaf o ddysgu a chymorth yn ystod eich cymhwyster. Ein nod yw eich helpu chi i ddatgloi eich potensial a’ch cynorthwyo chi i ddatblygu eich gyrfa, cydnabod a gwerthfawrogi eich sgiliau ac adeiladu eich hyder gyda’r nod o hybu a datblygu.
Rydym yn ymfalchïo mewn sefydlu perthynas gefnogol ac anogol gyda’n cleientiaid, ac o ganlyniad, mae eu gweithwyr yn teimlo fel eu bod yn rhan o gwmni sy’n ymroddedig i fuddsoddi yn ei bobl.
Ysgol Fusnes Caerdydd 118 Ffordd Maendy Caerdydd CF24 4HL
T: 02920 876560
E: lmw@cf.ac.uk
D11a Prifysgol Glyndŵr Campws Plas Coch Wrecsam LL11 2AW
T: 01978 293995
Prifysgol Aberystwyth Adeilad Cledwyn Aberystwyth SY23 3DD
T: 01970 622209
© 2012 2013 Y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Sgiliau Arwain a Rheoli yng Nghymru.