Mae Coleg Gwent yn un o’r darparwyr hyfforddiant mwyaf yng Nghymru. Ariannu a Gwasanaeth Cyflogwyr (EFS) yw ei adran hyfforddi masnachol, sy’n darparu a threfnu hyfforddiant ar gyfer busnesau.
Cefnogir EFS gan adran gwerthu masnachol y Coleg, Busnes ar y Blaen, sy’n helpu i ddod ag adnoddau helaeth Coleg Gwent at ei gilydd i gynorthwyo datblygu arbenigedd yn barhaus a helpu i roi ymyl gystadleuol i fusnesau.
Gellir cynnig hyfforddiant yn adeiladau cwmnïau neu gallwn drefnu hyfforddiant yn unrhyw un o’n lleoliadau, gyda’r rhan fwyaf o’n cyrsiau masnachol yn cael eu cynnal yn yr Holiday Inn, Casnewydd, Cyffordd 24.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth hyblyg o ansawdd uchel, y mae ein hachrediad ISO 9001 a Buddsoddwyr mewn Pobl yn ei ategu. Mae ein hyfforddwyr yn arbenigwyr yn eu maes. Mae ganddyn nhw arbenigedd “ymarferol” yn yr amgylchedd fusnes, ac maent yn gyfarwydd â phroblemau bywyd go iawn a’r atebion sydd eu hangen i ddatblygu unrhyw fusnes. Mae staff y coleg a chwmnïau yn gweithio mewn partneriaeth, yn gwneud y mwyaf o’r arbenigedd a rennir i ddatblygu gweithlu medrus.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Business Edge
Ysgol Fusnes Caerdydd 118 Ffordd Maendy Caerdydd CF24 4HL
T: 02920 876560
E: lmw@cf.ac.uk
D11a Prifysgol Glyndŵr Campws Plas Coch Wrecsam LL11 2AW
T: 01978 293995
Prifysgol Aberystwyth Adeilad Cledwyn Aberystwyth SY23 3DD
T: 01970 622209
© 2012 2013 Y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Sgiliau Arwain a Rheoli yng Nghymru.