eGylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, digwyddiadau, ymchwil, adroddiadau a chyllid.

Cofrestrwch am ddim

Cyfle am her arwain newydd


Ydych chi wedi ystyried mentora fel ffordd o wella eich datblygiad personol?
Mae A4enterprise yn chwilio am bobl fusnes profiadol sy’n barod i dreulio amser yn helpu busnesau newydd i ddechrau arni.

A4enterprise yw’r sefydliad nid-er-elw a benodwyd i gydgysylltu mentoriaid ar gyfer pobl sy’n mynd o fod yn ddi-waith i fod yn hunangyflogedig drwy’r Lwfans Menter Newydd.

Mae Julie Dyer, sef rheolwr menter A4enterprise Cymru, yn chwilio am bobl fusnes sydd â diddordeb mewn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad gwerthfawr â‘r rhai sy’n cymryd eu camau cyntaf fel pobl hunangyflogedig.

Dywedodd “Yn ogystal â‘r boddhad o weld busnes yn tyfu, gall y profiad hefyd fod o fudd personol i fentoriaid. Caiff mentoriaid eu paru â chwsmeriaid A4e yn unol â buddiannau busnes ac wedyn byddant yn gweithio gyda hwy am gyfnod o wyth wythnos i ddatblygu eu cynllun busnes a’u paratoi ar gyfer hunangyflogaeth.

“Unwaith y byddant yn dechrau masnachu, bydd gan fentoriaid rôl barhaus am hyd at 26 wythnos i’w helpu i oresgyn unrhyw rwystrau cychwynnol.”

Mae’r cynllun Lwfans Menter Newydd ar agor i’r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod di-dor o chwe mis neu fwy.

Cyn dod o hyd i fentor busnes priodol, bydd A4enterprise yn asesu’r syniad busnes i sicrhau ei fod yn ymarferol.

Dylai pobl fusnes sydd â diddordeb gysylltu â Julie Dyer yn .(JavaScript must be enabled to view this email address).

This article has been tagged: mentora