eGylchlythyr

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, digwyddiadau, ymchwil, adroddiadau a chyllid.

Cofrestrwch am ddim

Gweithio wrth gael brecwast – a dysgu manteision hyfforddi


Mae arweinwyr busnes yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad brecwast am ddim yng Nghaerdydd i ddysgu am fanteision hyfforddi.

Bydd y seicolegydd busnes, Dave Tee a rheolwr arwain a datblygu Celsa Manufacturing, Bob Fleck yn dod ynghyd ar gyfer digwyddiad Gweithio Wrth Gael Brecwast ar 23 Chwefror yng Ngwesty’r Village, Coryton.

Mae’r cyfarfod rhyngweithiol yn rhan o gyfres a gynhelir gan Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru, ac mae’n cynnwys trafodaeth grŵp, rhwydweithio a brecwast - er mwyn annog arweinwyr busnes i ystyried sut y gallai datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth helpu eu sefydliad.

Caiff y digwyddiad, a gynhelir rhwng 8am a 10am, ei drefnu ar y cyd â Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Morgannwg.

Bydd Dave Tee, a ddatblygodd yr Uned Ymgynghori ar Seicoleg Gymhwysol ym Mhrifysgol Morgannwg, yn rhoi trosolwg o hyfforddi a’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ddiwylliant hyfforddi mewn sefydliad. Bydd Bob Fleck yn rhoi cyflwyniad ar sut y cyflwynodd Celsa ddiwylliant hyfforddi ac effaith y diwylliant hwnnw ar y busnes.

“Mae hyfforddi’n cael ei gydnabod yn gynyddol fel modd i sicrhau manteision gwirioneddol i fusnesau,” meddai cyfarwyddwr Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru, Dr Barrie Kennard. “Gall helpu i ddatblygu eich gallu i feddwl am sefyllfaoedd mewn ffordd newydd a chreadigol y tu hwnt i feddylfryd a phrosesau cyfarwydd.

Er mwyn trefnu eich lle, ewch i www.lmw.org.uk neu ffoniwch Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru ar 029 2087 6560.

This article has been tagged: digwyddiadau