Bydd y cynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol yn gweithio, am ddim, i’ch helpu chi i asesu anghenion megis ymagwedd at hyfforddiant, anghenion hyfforddi yn unol ag amcanion busnes a chymorth tuag at ennill gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl.
Yn ogystal, bydd y cynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol yn llunio cynllun dysgu cytunedig yn seiliedig ar anghenion hyfforddi a datblygu a nodwyd. Os nad oes modd bodloni’r anghenion hyn trwy’r 12 darparwr datblygu hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru, mae’n bosibl y bydd cymorth ariannol dewisol ar gael. Trwy’r llwybr cymorth ariannol dewisol, bydd Llywodraeth Cymru’n cynnig cymhorthdal, gwerth hyd at 50%, i dalu am yr hyfforddiant a gytunwyd fel rhan o’r cynllun dysgu (hyd at derfynau penodol).
Pwy sy’n gymwys?
I weld os ydych yn gymwys ac am fwy o wybodaeth, ewch i wefan ARhC neu cysylltwch â Llinell Boeth Sgiliau Busnes ar 0845 60 661 60 neu anfonwch neges e-bost at businessskillshotline@wales.gsi.gov.uk. I’r rheiny nad ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol dewisol, mae croeso i chi ddefnyddio’r llwybr cais uniongyrchol.
Ysgol Fusnes Caerdydd 118 Ffordd Maendy Caerdydd CF24 4HL
T: 02920 876560
E: lmw@cf.ac.uk
D11a Prifysgol Glyndŵr Campws Plas Coch Wrecsam LL11 2AW
T: 01978 293995
Prifysgol Aberystwyth Adeilad Cledwyn Aberystwyth SY23 3DD
T: 01970 622209
© 2012 2013 Y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Sgiliau Arwain a Rheoli yng Nghymru.